There are many attractions within the area, just some of which are listed below, and none of these is more than 7 miles from the village.

 

Castell-y-Bere was built by Llywelyn Fawr (‘the Great’) of Gwynedd in the early 13th century as a southern bulwark of his territory. It fell to the English in 1283 after the killing of Llywelyn’s grandsons Llywelyn II and his brother Dafydd. The castle lies near the hamlet of Llanfihangel y Pennant just two miles from Abergynolwyn. It is reached by a country road but has its own parking spaces. Castell-y-Bere is open throughout the year and maintained by Cadw, the Welsh Historic Monuments body. www.cadw.wales.gov.uk

 

At 892m Cadair Idris is not, as many believe, the second highest mountain in Wales. There are a number of higher peaks around Snowdon itself and even in this area Aran Fawddwy, 12 miles to the north-east, tops Cadair Idris by 17 metres. But Cadair Idris has its charms, not least its name, the Chair of Idris (a giant), and it’s said that anyone spending a night on the summit will wake either mad or inspired to poetry. There are a number of starting points for walkers. The car park near the Minffordd junction of the B4407 and the A487 is recommended, where toilets, a map and other information for walkers can be found at the start of the well signposted route to the summit. 

 

Llyn Mwyngil is often, mistakenly, called Tal-y-llyn lake. Tal-y-llyn is in fact the former hamlet around the church at the western end of the lake. Visitors to Llyn Mwyngil can enjoy two hotels, Pen-y-bont and Tynycornel. The church and churchyard are also worth visiting, if only to see the gravestone of Jenny Jones, who followed her husband to Waterloo “and was on the field for three days”. The more energetic can walk around the lake. And there’s always the lake itself, with Cadair Idris rising above, beautiful in all seasons. 

 

Tyn y Ddôl was the home of Mary Jones a sixteen-year-old local girl who, in 1800, walked barefoot the 25 miles to Bala where she’d heard the Reverend Thomas Charles was selling Welsh Bibles. But when she arrived she found there were none. Her devotion inspired the Rev Charles and others, and soon led to the formation of the London and Foreign Bible Society. Her former home is now a ruin, but contains a memorial to her and is well worth a visit. 

 

The Talyllyn Railway runs from Tywyn to Nant Gwernol, just above Abergynolwyn, with Abergynolwyn station just to the west of the village. The railway originally connected with trams bringing the slate down from Bryneglwys quarry for transportation to the coast.
The railway fell into disuse after the quarry closed but was rescued and gradually restored by steam enthusiasts. During the summer months there are a number of trains every day, fewer trains in the spring and autumn, with an irregular service in winter. For more details can be found at www.talyllyn.co.uk

 

Craig y Deryn/Craig yr Aderyn (Bird Rock) is so called because cormorants still breed there, apparently oblivious to the fact that the sea has retreated some five miles. A spectacular outcrop that until recently was also home to wild (or perhaps feral) goats. One approach offers a stiff walk while another face is popular with rock climbers.

 

Dolgoch Falls are in fact three close but separate drops on Nant Dol-goch as it runs the short distance from its source on Mynydd Esgairweddan to the valley below where it joins Afon Fathew.

 

Dolgoch Falls has a Talyllyn Railway station, a bus stop, and ample car parking in front of the café and tea rooms on the B4405. But if reaching the foot of the Falls is relatively easy, be warned! it’s still a demanding walk to the top. It would take more space than we have available here to list all the walks in the area. They range from gentle strolls along forestry tracks to more demanding hill walks. For the true enthusiast, the hike from Abergynolwyn over Foel y Geifr into the Dyfi Valley and Machynlleth is certainly recommended, as is the route from the village over Trawsfynydd to the A493 and then the footbridge across the Mawddach estuary to Barmouth.

 

Bryneglwys Quarry was first worked for slate in the 1840s by local entrepreneur John Pughe of Aberdyfi, but transportation difficulties led to it falling idle around 1859. In 1864 the Aberdovey Slate Company (from 1867 the Abergynolwyn Slate Company) reopened the workings with capital raised in Manchester. The quarry changed hands a number of times after that and was eventually bought in 1910 by Mr Henry Haydn Jones, who was elected MP in 1911 and knighted in 1937. At the peak of its production in the 1920s up to 150 men were employed at Bryneglwys but this dropped to 50-60 in the 1930s. A combination of geological problems, lack of investment and some difficulty in attracting workers to the often dangerous work led to the quarry’s closure in 1947. Nothing of the quarry buildings remain today, though a number of shafts can be seen, as can the massive piles of waste. Above the quarry, towards the ridge, lies the
reservoir that provided the water power, with its wheel tower still standing. Visitors are strongly advised to keep to
marked paths, as water and underground movement can lead to surface instability, also because with little warning one can find oneself at the edge of old workings – and a very sharp drop.

 

The Dysynni Cycle Route runs from Tywyn to Abergynolwyn and Tyn y Ddôl. The full circuit is some 18 miles, though you (and your bike) could take the Talyllyn Railway train back to Tywyn. In fact there are a number of options for those not wishing to do the full circuit. Though as the whole route runs along valley floors you’ll encounter few stiff climbs. 

 

And finally...

Whatever your level of fitness or your ambition an up to
date Ordnance Survey map is essential. Not only to keep you on track but also to allow you to name the streams, hills
and other features, thereby enjoying the spectacular views
to the full. 

Mae yna lu o atyniadau o fewn yr ardal. Dim ond rhai ohonynt a nodir isod ac mae pob un o fewn 7 milltir i’r pentref.

 

Adeiladwyd Castell y Bere gan Llywelyn Fawr o Wynedd yn gynnar yn y drydedd ganrif ar ddeg fel amddiffynfa ddeheuol i’w diriogaeth. Syrthiodd i’r Saeson yn 1283 yn dilyn marwolaeth ei wyrion, Llywelyn II a’i frawd Dafydd.

Saif y castell ger pentrefan Llanfihangel y Pennant sydd ond dwy filltir o Abergynolwyn. Gellir mynd yno ar hyd ffordd wledig ac mae lleoedd parcio ar gael. Mae Castell y Bere yn agored drwy’r flwyddyn ac yn cael ei warchod gan Cadw, y corff sy’n gwarchod Henebion Hanesyddol Cymreig. www.cadw.wales.org.uk

 

Er fod llawer yn credu hynny, nid Cader Idris, sydd yn 892m o uchder, yw’r ail fynydd uchaf yng Nghymru. Mae llawer o gopaon i’w canfod o gwmpas Eryri sydd yn uwch, a hyd yn oed yn y parthau hyn, mae Aran Fawddwy, 12 milltir i’r gogledd ddwyrain, 17 metr yn uwch na Chader Idris. Sut bynnag, mae i Gader Idris ei swyn arbennig ei hunan, fel sydd i’w henw, Cader Idris y cawr, a dywedir y bydd unrhyw un sy’n treulio’r nos ar ei chopa un ai yn deffro yn wallgof neu wedi ei ysbrydoli’n fardd. Mae yna nifer o fannau cychwyn i gerddwyr sydd am ei dringo. Argymhellir y maes parcio ger cyffordd y B4407 a’r A487 ym Minffordd. Darparwyd toiledau, map a manylion eraill ar gyfer
cerddwyr yn y fan honno ac mae’r llwybr i’r copa wedi ei gyfeirio’n dda. 

 

Caiff Llyn Mwyngil yn aml ei gam enwi fel llyn Tal-y-llyn. Tal-y-llyn, mewn gwirionedd, yw’r hen bentrefan o amgylch yr eglwys ym mhen gorllewinol y llyn. Gall ymwelwyr â Llyn Mwyngil fwynhau dau westy yno, sef gwesty
Pen-y-bont a gwesty Tynycornel. Mae’r eglwys a’r fynwent hefyd yn werth ymweld â hwy pe ond i weld beddfaen Jenny Jones a ddilynodd ei gwr i Waterloo “ac a fu ar y maes am dri diwrnod”. Gall y rhai mwyaf egnïol gerdded o amgylch y llyn. Erys bob amser y llyn ei hunan gyda Chader Idris yn esgyn uwch ei ben, golygfa hyfryd beth bynnag fo’r tymor.

 

Cartref Mary Jones, merch un-ar-bymtheg oed a gerddodd 25 milltir yn droednoeth i’r Bala yn 1800 oedd Ty’n-y-ddol. Clywodd fod y Parch Thomas Charles yn gwerthu Beiblau Cymraeg yno ond pan gyrhaeddodd, canfu nad oedd yr un ar ôl. Ysbrydolwyd y Parch Thomas Charles ac eraill gan ei hymroddiad ac arweiniodd hynny yn fuan at sefydlu y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor. Adfail yw ei chartref erbyn hyn ond mae cofeb iddi yno ac mae’n werth ymweld â’r lle.

 

Rhed Rheilffordd Talyllyn o Dywyn i Nant Gwernol, sydd ychydig uwchben Abergynolwyn, ond saif gorsaf Abergynolwyn ei hunan ychydig i’r gorllewin o’r pentref. Cysylltai’r rheilffordd yn wreiddiol gyda thramiau a gariai’r llechi i lawr o chwarel Bryneglwys i’w cludo drachefn i’r arfordir. Pan gaewyd y chwarel dirywiodd y rheilffordd o ddiffyg defnydd ond cafodd ei hachub yn raddol gan selogion y trenau ager. Yn ystod misoedd yr haf ceir nifer o drenau bob dydd gyda llai yn ystod y gwanwyn a’r hydref. Gwasanaeth ysbeidiol a ddarperir yn y gaeaf. Am fanyllion cysylltwch â www.talyllyn.co.uk

 

Caiff Craig y Deryn/Craig yr Aderyn ei henw am fod mulfrain yn parhau i nythu yno heb sylwi, yn ôl pob tebyg, fod y môr wedi cilio’n ôl rhyw 5 milltir. Cyfyd yn fawreddog uwch y dyffryn a hyd yn ddiweddar bu’n gartref i eifr gwyllt neu ledwyllt. O un cyfeiriad ceir taith gerdded eithaf heriol tua’r copa tra mae wyneb arall yn boblogaidd i ddringwyr.

 

Tri chwymp d_r agos i’w gilydd, ond eto’n neilltuedig, ar Nant Dolgoch yw Rhaeadr Dolgoch fel y llifa ar ei thaith fer o’i tharddiad ar Fynydd Esgairweddan i’r dyffryn islaw lle’r ymuna â’r Afon Fathew. Mae adnoddau’r atyniad hwn, a fu’n boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr ers amser maith, ar hyn o bryd yn cael eu huwchraddio. Disgwylir y bydd y llwybrau troed newydd a’r pontydd wedi eu cwblhau erbyn Mai 2003.

 

Lleolwyd gorsaf Rheilffordd Talyllyn ger Rhaeadr Dolgoch, ac ar y B4407 gerllaw mae yna faes parcio sylweddol o flaen y bwyty a’r ystafelloedd te. Er fod cyrraedd troed y Rhaeadr yn gymharol hawdd, rhybuddir chi fod cerdded i’r brig yn dasg anodd!

 

Fe gymerai fwy o le nag sydd ar gael yma i resrtru’r holl deithiau cerdded sydd yn yr ardal.  Maent yn ymestyn o deithiau hamddenol ar draciau coedwigol i deithiau mwy anodd ar lethrau. Cymeradwyir y daith gerdded o Abergynolwyn dros Foel y Geifr i Ddyffryn Dyfi a Machynlleth i’r gwir selogion yn ogystal â’r daith o’r pentref dros Drawsfynydd i’r A493 gan ddilyn y bont droed ar draws aber y Fawddach i’r Bermo.

 

Beth bynnag yw lefel eich ffitrwydd, neu eich uchelgais, mae map ordnans cyfoes yn hanfodol. Bydd yn eich cadw ar y llwybr cywir yn ogystal â’ch galluogi i enwi’r afonydd, y bryniau a nodweddion eraill gan sicrhau eich bod yn llwyr fwynhau’r golygfeydd ysblennydd. Cymeradwywn Fap OS 23, Cyfres Hamddena Awyr Agored, rhanbarth Eryri a Chader Idris, (2_ modfedd i 1 filltir/4cm i 1km). Pris y cyhoeddiad yw £6.99 ac mae’n cynnwys popeth y cyfeirir ato ar y wefan hon, a mwy, a hynny ar fap sydd â dwy ochr iddo ac sy’n cynnwys mwy o fanylion na’r mapiau OS safonol. www.ordnancesurvey.co.uk

 

Dechreuwyd cloddio am lechi yn Chwarel Bryneglwys yn yr 1840au gan fentrwr lleol o’r enw John Pughe o Aberdyfi ond arweiniodd anhawsterau cludiant at ddiwedd y gwaith yn 1859. Yn 1864 ail agorwyd y chwarel gan Gwmni Llechi Aberdyfi (Cwmni Llechi Abergynolwyn ers 1867) gyda chyfalaf a godwyd ym Maenceinion. Newidiodd y chwarel ddwylo
sawl gwaith wedi hynny cyn gael ei phrynu yn 1910 gan Mr Henry Haydn Jones a etholwyd yn Aelod Seneddol yn 1911 ac a urddwyd yn farchog yn 1937.

 

Pan oedd y chwarel yn cynhyrchu ar ei hanterth yn y 1920au cyflogid hyd at 150 o ddynion ym Mryneglwys ond gostyngodd hyn i 50-60 erbyn y 1930au. Arweiniodd cyfuniad o broblemau daearegol, diffyg buddsoddiad a pheth anhawster i ddenu gweithwyr i waith a oedd yn aml yn beryglus at gau’r chwarel yn 1947.

 

Does dim o adeiladau’r chwarel yn parhau erbyn heddiw er fod nifer o siafftau o hyd i’w gweld yn ogystal â thomeni o wastraff. Tua’r grib uwchlaw’r chwarel saif y gronfa ddwr a fu’n darparu’r pwer dwr ac fe saif twr yr olwyn yno o hyd.

 

Cynghorir ymwelwyr i ddilyn y llwybrau a nodwyd gan y gall d_r a symudiad tanddaearol beri i wyneb y tir fod yn ansefydlog. Gallech hefyd, heb unrhyw rybudd, ganfod eich hun ar ymylon hen weithfeydd gan wynebu cwympfeydd enbyd.

 

Rhed Llwybr Beicio Dysynni o Dywyn i Abergynolwyn a Thy’n-y-ddol. Mae’r gylchdaith lawn oddeutu 18 milltir er y gallech chi (a’ch beic) ddychwelyd i Dywyn ar drên Reilffordd Talyllyn. Mae yna sawl dewis i’r rhai nad ydynt am ddilyn
y gylchdaith yn llawn, mewn gwirionedd.

Byddwch yn wynebu sawl dringfa serth er fod y llwybr cyfan yn dilyn lloriau dyffrynnoedd.